Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf – beth weithiodd a beth na wnaeth weithio

 

1.    Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o rymuso cymunedau lleol. Drwy'r rhaglen hon mae unigolion wedi meithrin sgiliau i fynd ati i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Mae'r dull hwn wedi bod yn unigryw ac mae elfennau o'r rhaglen wreiddiol wedi cael eu hadlewyrchu yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol,  “Dull sydd yn ymdrin â'r achosion sydd wrth wraidd tlodi, un sy'n cydnabod bod cymunedau yn y sefyllfa orau i benderfynu ar lefel leol ym mha feysydd y mae angen hoelio'r sylw, ac un nad yw wedi’i gyfyngu i gyfeiriadau'r codau post y maent yn byw ynddynt”, gan gadarnhau mor bwysig yw grymuso cymunedau lleol i sicrhau newid cynaliadwy.

 

2.    Er nad yw wedi bod yn bosibl i gyfrifo cyfanswm yr arbedion a wnaed gan y rhaglen drwy raglenni iechyd, cyflogaeth a dysgu, mae atal wedi bod yn bwnc canolog drwy gydol y rhaglen.

 

3.    Mae'r rhaglen wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau cannoedd o bobl yn Sir Gaerfyrddin. Un o agweddau cadarnhaol y rhaglen hon yw ei bod wedi'i chynllunio ar gyfer cymunedau ac felly mae wedi gallu addasu i anghenion lleol. Drwy'r dull hwn llwyddwyd i gael gwared ar rwystrau gan alluogi unigolion i fod yn rhan o strategaethau lleol, o'r drefn o ddatblygu prosiectau ynghyd â'r broses o gynllunio.

 

4.    Yn y broses o adeiladu capasiti bu cynnydd yn nifer yr unigolion a oedd yn weithgar yn eu cymunedau drwy iddynt wirfoddoli a chymryd rhan mewn prosiectau yn eu hardal. Serch hynny, yn nyddiau cynnar y rhaglen gyrrwyd y cyfarwyddyd i raddau helaeth o safbwynt y cymunedau ac felly roedd hi'n anodd i bartneriaid lleol megis Awdurdodau Lleol gyfrannu oherwydd roedd y staff a'r cymunedau yn teimlo bod y rhaglen ar eu cyfer nhw, ac mai eu cyfrifoldeb nhw yn unig oedd canfod atebion i lawer o broblemau eu cymunedau. Ar adegau roedd hi'n anodd ymgysylltu.

 

5.    Mae'r dull o weithio mewn partneriaeth wedi arwain at gysylltu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Enghraifft o hyn oedd sefydlu clinigau gwaed allgymorth mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Nododd cynrychiolwyr y gymuned fod angen y prosiect ac yn ddiweddarach fe'i sefydlwyd gyda phartneriaid ac mae'n parhau i gael ei gyflwyno yn yr ardal.

 

6.    Serch hynny, roedd y pwyslais cynnar ar adeiladu capasiti yn unig ac arweiniodd hyn at ddiffyg ffocws ac, yn ei sgil, farn negyddol am y rhaglen am nad oedd llawer o ganlyniadau amlwg.

 

7.    Rhoddodd y rhaglen gychwyn ar ymagwedd unigryw at wirfoddoli ac roedd yn fodd i annog unigolion o gefndiroedd amrywiol i ymrymuso drwy'r broses. Yn ystod y cam adeiladu capasiti sefydlwyd dros 50 o grwpiau cymunedol newydd o ganlyniad i'r rhaglen.

 

8.    Lluniwyd cyfansoddiad ar gyfer grwpiau cymunedol newydd a chawsant gymorth i gael mynediad i filiynau o bunnau o gyllid allanol. Cyflwynwyd prosiectau cyfalaf a refeniw ledled yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yn eu plith oedd y cynlluniau canlynol: Prosiect Chwarae a Thasgu Dŵr y Morfa, ailddatblygu Penymorfa, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felin-foel, Parc Bigyn, Maes Chwarae Amlddefnydd Llwynhendy, lle chwarae Llwynhendy, rhandiroedd Llwynhendy, olwyn 'Y Felin' yn Felin-foel, lle chwarae Pantyffynnon, datblygiad West End a nifer o brosiectau i adnewyddu eglwysi a chapeli.  Cafwyd cyllid refeniw i gyflawni prosiect sgiliau cyflogaeth Adeiladu eich Dyfodol eich Hun, a chynllun allgymorth i Ieuenctid a rhaglen datblygu chwaraeon.

 

9.    Ni chafodd data gwaelodlin ei nodi gan Lywodraeth Cymru, na chwaith gan ardaloedd y prosiect, ar ddechrau'r rhaglen felly roedd hi bron yn amhosibl gwerthuso'r rhaglen.

 

10. Ym mlynyddoedd cynnar y rhaglen ni fesurwyd dylanwad tymor hir y rhaglen ar yr unigolion. O ganlyniad, ni fu llawer o gofnodi ar yr ystadegau a'r canlyniadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

11. Ar ôl y cam adeiladu capasiti daeth y rhaglen yn un a arweinid gan ganlyniadau, a groesawyd gan bawb oherwydd roedd yn gyfle i weithio'n fwy strategol gyda phartneriaid allweddol gan barhau i weithio ochr yn ochr â'r gymuned. Gwellwyd y prosesau monitro a gwerthuso a chafwyd cyfeiriad clir ac ymagwedd fwy penodol.

 

12. Gweithiodd y broses benodol hon yn dda ac fe gafodd ei symleiddio yn 2013 er mwyn canolbwyntio ar dair thema strategol allweddol ac ar gyflawni'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol. Gweithiodd y broses o symleiddio themâu yn dda yn ardal Sir Gaerfyrddin a rhoddwyd blaenoriaeth i brosiectau a fyddai'n annog unigolion i gael hyd i swyddi.  Gwellodd y rhaglen newydd (ers 2013) yn fawr a chymerodd partneriaid ddiddordeb go iawn yn y dull o drechu tlodi oedd yn rhoi pwyslais ar y canlyniadau o ran swyddi.

 

13. Ers 2013 mae cyfranogwyr a staff wedi bod yn agored i gymorth gan asiantaethau oherwydd roedd y meddylfryd yn fwy strategol; gwelwyd y budd o gydweithio'n ehangach oherwydd ni allai un corff gael dylanwad a chyflawni'r canlyniadau ar ei ben ei hun. Yn ystod 2016/17 bu dros 65 o bartneriaid o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio â Chymunedau yn Gyntaf i gefnogi cymunedau.

 

14. Mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi ar waith yn llwyddiannus nifer o gynlluniau peilot a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru. Un o'r rhaglenni gwreiddiol oedd Prosiect Dyledion a Budd-daliadau Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd y prosiect yn 2007 ac mae wedi para i fod yn ffocws ar gyfer ffrwd waith Llewyrch – mae dros 1247 o bobl wedi cael cymorth ers 2013, ac aed i'r afael â miliynau o bunnoedd o ddyled bersonol. Roedd ethos rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi galluogi unigolion i gyfeirio'u hunain at raglenni mynediad a gynhaliwyd mewn amgylchedd diogel a chyfforddus yn eu cymunedau, gan wneud y prosiect yn llwyddiant. Hefyd bu i Sir Gaerfyrddin gynnal y Swyddog Gwella a Chydweithredu Rhanbarthol a fu'n cysoni'n rhanbarthol y rhaglenni Trechu Tlodi a gyllidir gan Lywodraeth Cymru; mae'r sir wedi peilota rhaglenni Lifft, Cyfuno a Momentwm yn ogystal.  Mae hyn wedi cryfhau'r gwaith o ddarparu'r rhaglen graidd ac wedi creu partneriaethau newydd ym meysydd y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.

 

15. Astudiaeth Achos 1

Effeithiwyd ar Paul yn fawr pan gafodd ei wneud yn ddi-waith o achos salwch; cafodd hyn effaith negyddol ar ei hunan-barch a chollodd ei hyder yn ei alluoedd. Yn ystod camau cyntaf rhaglen Cymunedau yn Gyntaf cysylltodd Paul â Chymunedau yn Gyntaf a bu ynghlwm wrth Bartneriaeth leol Cymunedau yn Gyntaf a Grwpiau Gweithredu Lleol, a gwirfoddolodd gyda Thîm Cymunedau yn Gyntaf. Wrth i hyder a hunan-barch Paul dyfu bu'n ymwneud â mudiadau a grwpiau eraill ac roedd yn gynrychiolydd ardal ar gyfer y Cyngor Tref lleol. Trwy'r gweithgareddau gwellodd ei hyder a'i ddyheadau ac yn sgil hynny mynychodd Paul gyfres o sesiynau hyfforddiant heb eu hachredu, gan wella'u sgiliau rhifedd a llythrennedd, a chwblhaodd hyfforddiant achrededig mewn Datblygu Cymunedol. Wedyn ymrestrodd Paul ar gwrs Prifysgol er mwyn gwneud gradd mewn Cynhwysiant Cymdeithasol. Ar ôl ei gwblhau aeth Paul ar gyfnod o leoliad gwaith gyda'r Tîm Cymunedau yn Gyntaf i ennill profiad a oedd yn cyd-fynd â'i radd. Hefyd, mynychodd Paul glybiau Amcanion Cymunedau yn Gyntaf lle llwyddodd i feddwl yn fwy cadarnhaol ynghylch chwilio am waith, gan feithrin sgiliau ynghylch TG, chwilio am waith, ysgrifennu ceisiadau a pharatoi at gyfweliadau.

Yn ogystal â'r cymorth parhaus a gafodd gan raglen Cymunedau yn Gyntaf, cymerodd Paul ran yn rhaglen Lifft a dechreuodd gael cymorth mentora dwys gan ymgynghorwyr. Yn sgil y cymorth a'r cynnydd hwn yn ei hyder cwblhaodd Paul gyfnodau ar leoliad gwaith gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Un o'r pwyntiau mwyaf nodedig ar siwrnai Paul ym marn y tîm oedd ym mis Mawrth 2017, yn ystod digwyddiad llesiant Cymunedau yn Gyntaf, pan oedd Paul yn bresennol fel darparwr ar gyfer ymgyrch Amser i Newid ac yn eiriolwr Iechyd Meddwl.

“Drwy gyfrwng y rhaglen roeddwn i'n gallu cysylltu â'r gymuned a bod yn llai ynysig. Dechreuodd y gymuned ddod yn fwy bywiog, cydlynus a chadarnhaol. Tyfodd fy niddordeb mewn Datblygu Cymunedol ac yn ei sgil datblygais ymwybyddiaeth wleidyddol a diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae'r rhaglen wedi bod yn rhan o fy siwrnai i adfer fy hun; mae wedi bod yn wych ac wedi fy helpu i gredu yn fy hunan. Fy nod bellach yw gweithio yn y sector Datblygu Cymunedol."  Paul (Mai 2017)

 

16. Ers 2013 mae dros 300 o unigolion yn yr ardal Glwstwr wedi cael gwaith drwy gymorth Cymunedau yn Gyntaf; cafodd 963 o unigolion gymhwyster wedi'i achredu sydd wedi eu helpu i wella'u sgiliau yn barod ar gyfer gwaith. Yn sgil newidiadau i gyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac o ran pontio rhwng Dysgu Oedolion a'r Colegau, crëwyd bwlch yn y ddarpariaeth wrth i hyfforddiant nad oedd wedi'i achredu llawer a hyfforddiant nad oedd yn achrededig gael ei gynnig i unigolion mewn cymunedau. Roedd Cymunedau yn Gyntaf yn gallu darparu ar gyfer yr anghenion lleol a chefnogi unigolion drwy gyrsiau sgiliau sylfaenol, cyrsiau ymarferol, cyrsiau hunangyflogaeth yn ogystal â chyrsiau am adwerthu, adeiladu a chyrsiau eraill oedd yn ymwneud â gwaith. Ers 2013 mae dros 1055 o unigolion wedi defnyddio cymorth sgiliau sylfaenol. Mae'r symudiad tuag at hyfforddiant ar gyfer swyddi wedi gweithio'n arbennig o dda yn yr ardal. Pe bai hyn yn dod i ben byddai'n cael effaith negyddol ar unigolion o'r Clwstwr a'r sefydliadau partner sy'n defnyddio'r rhaglenni hyfforddiant.

 

17. O ganlyniad i waith mapio gwasanaethau yn lleol datblygwyd rhaglen lesiant i ddiwallu'r anghenion a amlygwyd gan drigolion a chan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gan fod rhagor o ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a rhagor o angen am wasanaethau, fe gyfyngwyd ar y gwasanaethau y gallai unigolion eu defnyddio. Nid oes sesiynau cwnsela ar gael yn rhad neu'n rhad ac am ddim, oni bai eu bod yn cael eu cynnig gan y cyflogwr, a'r dewis arall yw gweithdai grŵp lle cyflwynir gwybodaeth i gynulleidfa. Drwy natur hyblyg rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ddiwallu anghenion lleol, crëwyd rhaglen a oedd yn cwmpasu'r model Pum Ffordd at Les i roi cymorth i unigolion oedd â lefelau isel o straen, gorbryder ac iselder a hynny dros gyfnod o chwe wythnos. Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017 bu i 501 o unigolion ddefnyddio cymorth y rhaglen hon, gan gadarnhau'r angen am y ddarpariaeth. Ar hyn o bryd nid oes yna sefydliad neu raglen yn lleol sy'n cynnig y cymorth hwn i unigolion. Pe bai'r rhaglen hon yn cael ei diddymu byddai bwlch o ran gwasanaethau a fyddai'n cael effaith fawr ar y gwasanaethau eraill, gan gynnwys iechyd a chymorth lles. 

 

18. Mae rhaglen Credydau Amser Sir Gaerfyrddin yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gymunedau yn Gyntaf a thrwyddi mae dros 1300 o bobl wedi dod yn wirfoddolwyr yn yr ardal. Drwy ennill credydau amser mae'r sawl sy'n cymryd rhan wedi meithrin sgiliau, rhoi hwb i'w llesiant ac yn gallu ‘gwario’ eu credydau mewn cyfleusterau lleol.  Cynhyrchwyd dros 12,000 o oriau gwirfoddoli yn ystod 2016-17. Drwy ennill Credydau Amser mae 85% o'r bobl a gymerodd ran wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy abl i gyfrannu at y gymuned, mae 66% yn teimlo'n fwy hyderus, mae 72% yn gallu fforddio i wneud rhagor o bethau, yn ôl 19% mae eu hiechyd meddwl wedi gwella, mae 64% yn teimlo'n llai ynysig ac unig a dywedodd 84% fod eu safon byw wedi gwella.

 

Sut y bydd Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn parhau i gael eu cyllido ar ôl mis Mehefin 2017

 

19. Mae gwerthuso'r rhaglenni yn unol ag anghenion lleol a'r data gwaelodlin yn ganolog i'r broses benderfynu hon. Mae strwythurau ar waith i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chasglu drwy fethodolegau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys data a gesglir oddi wrth y bobl oedd yn cymryd rhan, a grwpiau a sefydliadau, a hynny gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol. Mae ystadegau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi cael eu dadansoddi i nodi bylchau posibl yn y gwasanaethau.  Caiff y wybodaeth hon ei chyflwyno i fwrdd Cymunedau yn Gyntaf (cynrychiolwyr cyhoeddus, preifat a chymunedol) a thrwy strwythurau allweddol yn yr Awdurdod Lleol er mwyn i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei hystyried.  Ymgynghorir â'r tîm Cymunedau yn Gyntaf a sefydliadau partner allweddol drwy gydol y broses. Bydd y pwyslais yn parhau i fod ar gymorth swyddi a sgiliau cyflogadwyedd.

 

Sut y bydd yr amrywiol raglenni lleihau tlodi (Cymunedau am Waith, Lifft, Dechrau'n Deg ac ati) yn newid o ganlyniad i ddiwedd Cymunedau yn Gyntaf

 

20. Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi ychwanegu gwerth at yr holl raglenni lleihau tlodi a hynny drwy ddarparu rhaglenni allweddol. Mae'r rhaglenni allweddol hyn wedi ategu meysydd addysgu, iechyd a chyflogaeth yn ogystal ag ymgysylltu â'r gymuned a'i grymuso drwy'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol. Mae dros 3000 o drigolion y flwyddyn wedi ymwneud â'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin. Heb y cymorth hwn fe fyddai bylchau o ran gwasanaethau yn achos yr unigolion fwyaf anodd eu cyrraedd yn y cymunedau. Mae'r gweithgareddau ymgysylltu a grymuso fel rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf hefyd wedi darparu adnodd hollbwysig er mwyn i bartneriaid ymgysylltu â chymunedau gyda'r nod o lywio'r ddarpariaeth.

 

21. Mae ymgysylltu wedi bod yn agwedd hanfodol o raglen Cymunedau yn Gyntaf ac fe ddefnyddiwyd yr agwedd hon gan y rhaglenni eraill gan gynnwys Lifft a Chymunedau am Waith i gynyddu nifer eu cleientiaid. Mae cymorth i grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig ac unigolion sy'n anodd eu cyrraedd wedi bod yn agwedd hanfodol o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r gallu i ymgysylltu a rhyngweithio yn y grwpiau wedi bod yn ffactor a symbylodd gynnydd yn nifer yr unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau prif ffrwd a gwasanaethau eraill a gyllidir. Mae hyn wedi cynnwys gwaith â theuluoedd sipsi a theithwyr, grwpiau anabledd ac unigolion sydd wedi cael anawsterau o ran camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.  Mae ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf wedi bod yn gam cyntaf i lawer o unigolion cyn defnyddio gwasanaethau eraill.

 

22.Astudiaeth Achos 2

Mae Elizabeth y byw yn Ward Glanymôr yn yr Ardal Glwstwr ac wedi bod yn ymwneud â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ers 2013. I ddechrau roedd ei hymwneud yn cynnwys mynychu digwyddiadau a gweithgareddau gyda'i phlant a chymryd rhan mewn sesiynau rhagflas nad oedd wedi'u hachredu. Drwy gymorth parhaus llwyddodd Elizabeth i gwblhau cwrs Gofalu am Blant, Lefel 1, yn 2014 ac roedd yn awyddus i gryfhau ei CV sgiliau a chymwysterau oherwydd roedd hi eisiau dychwelyd i waith pan fyddai ei phlentyn ifancaf yn dechrau yn yr ysgol. Parhaodd Elizabeth i ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf drwy fynychu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys Read, Write Inc., Brands v’s Bargains, Grŵp Anogaeth a Chwarae, Dysgu a Chreu. Yn y digwyddiad Chwarae, Dysgu a Chreu cafodd Elizabeth ei chyfeirio gan Dîm Dysgu Cymunedau yn Gyntaf at raglen Cymunedau am Waith.

Drwy Gymunedau am Waith aeth Elizabeth ar gwrs ‘All Set for Employment’  a oedd yn cynnwys sgiliau gwytnwch, gwisg a golwg ar gyfer gwaith a bwyd a hwyliau. Drwy gymorth y mentor Cymunedau am Waith mae Elizabeth wedi cael cyfnod o waith ar leoliad mewn ysgol leol ac mae'n mynd yn ei blaen ar y llwybr gyrfa y mae'n dymuno ei gael, sef gweithio gyda phlant. 

 

23. Mae'r rhaglenni lleihau tlodi eraill wedi cael cyfle i ymgysylltu â thrigolion drwy'r 100+ o weithgareddau allgymorth a drefnwyd gan Gymunedau yn Gyntaf ers 2013. Hefyd, mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi llwyddo i gynnig cymorth un i un a chymorth grŵp mewn lleoliadau Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, i gefnogi eu cleientiaid yn wythnosol. Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cynnig llwybrau cynnydd i bobl sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, gan gynnwys cyfleoedd dysgu sydd wedi'u hachredu a heb eu hachredu ar gyfer rhieni, yn ogystal â sgiliau digidol, gallu ariannol a chymorth swyddi. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn bartner o ran y dull 'Tîm o Amgylch y Teulu' o gefnogi teuluoedd.

 

24. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn bartner pwysig mewn rhaglenni cyfalaf megis Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid er mwyn darparu cyfleoedd i drigolion gael hyfforddiant, cyfnodau gwaith ar leoliad a swyddi.

 

25. Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn hanfodol bwysig wrth gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn a hynny drwy weithredu rhaglenni sydd wedi gwella presenoldeb, cyrhaeddiad ac ymddygiad mewn ysgolion. Drwy weithio ar y cyd â gweithwyr ieuenctid Teuluoedd yn Gyntaf mewn ysgolion uwchradd mae 467 o bobl ifanc wedi cael cyfle, ers 2013, i gymryd rhan mewn rhaglenni cwricwlwm amgen, gwaith gwirfoddol, mentrau celf a diwylliant a chymorth dysgu ychwanegol.

 

26. Mewn ysgolion cynradd mae 2335 o blant wedi cael cymorth ychwanegol a dywedodd 936 o rieni eu bod yn fwy hyderus yn ymwneud ag addysg eu plentyn o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Cymunedau yn Gyntaf. Mae hyn yn cyfrannu at y gwaith mae Teuluoedd yn Gyntaf, y Tîm o Amgylch y Teulu, y Canolfannau Teulu a Dechrau'n Deg yn ei wneud yn yr ardaloedd lleol.

 

27. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn brif ddarparwr prosiectau digidol ar gyfer yr holl raglenni lleihau tlodi, ac mae 701 o bobl wedi cael cymorth ers 2013. Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi datblygu rhaglenni digidol yn barhaus i fodloni anghenion penodol  yr unigolyn a'r cyflogwyr lleol. Pe bai'r gweithgaredd hwn yn dod i ben byddai'n cael effaith niweidiol ar unigolion yn y Clwstwr oherwydd mae'r rhaglenni digidol yn cynnig cymorth hefyd  ym meysydd deall materion ariannol a dod o hyd i waith, ac yn cynnig cymorth ynghylch y newidiadau parhaus i'r system fudd-daliadau.